Deuwch holl hiliogaeth Adda (I glodfori'n Ceidwad mawr)

1,2,3,4,5,6,7,8,9;  1,7,8.
Deuwch holl hiliogaeth Adda,
  I glodfori'n Ceidwad mawr,
Gwisgodd natr wael pechadur,
  Rhyfeddod nef a daear lawr:
    Dyma'r Alpha,
  A'r Omega mawr yn Ddyn.

Er bod lluoedd o angylion
  Yn ei foli yn gyttun,
Yn eithafoedd trag'wyddldeb,
  Cyn ei wisgo â natur dyn,
    Roedd ei galon,
  Gydâ anheilwng lwch y llawr.

Peraidd ganodd sêr y boreu,
  Ar enedigaeth Brenin ne';
Doethion a bugeiliaid hwythau
  Teithient i'w addoli e':
    Gwerthfawr drysor,
  Yn y preseb Iesu gaed.

Dyma y newyddion hyfryd
  Glywyd gan angelion Duw,
Fod y Ceidwad gwedi'i eni,
  I golledig ddynol-ryw:
    Ffyddlawn gyfaill,
  Bechaduriaid, molwn Ef.

Dyma'r Bachgen aned i ni,
  Mab a roddwyd in' gan Dduw;
Efe yw'r unig un arfaethwyd
  I waredu dynol-ryw:
    O'r trueni,
  Mawr cwympasom iddo oll.

Ei enw galwyd yn Rhyfeddol;
  I drag'wyddoldeb felly bydd;
Fe brophwydodd y prophwydi,
  Cyn ei ddyfod, am ei ddydd:
    Caw'd in' Geidwad,
  Gorfoleddwn yntho ef.

Tad trag'wyddol yw ei enw,
  T'wysog y tangnefedd yw:
Creawdwr mawr y bydoedd ydyw,
  A Chynhaliwr dynol-ryw:
    Hollalluog
  Daeth i farw yn ein lle.

Dyma Geidwad i'r colledig,
  Meddyg i'r gwywedig rai;
Dyma un sy'n caru maddeu
  I bechaduriaid mawr eu bai;
    Diolch iddo,
  Fyth am gofio llwch y llawr.

Brenin trag'wyddoldeb ydyw,
  Llywodraethwr dae'r a ne';
Fyth ni wel hiliogaeth Adda
  Geidwad arall ond efe:
    Mae e'n ddigon,
  Y Trag'wyddol Fywyd yw.
Morgan Rhys 1716-79
Golwg o Ben Nebo 1764

Tonau [87874]:
Calvary (Samuel Stanley 1767-1822)
  Judgement (<1825)
  Pleasant Morning (<1825)
Wenlock (<1825)

gwelir:
  Deuwch holl hiliogaeth Adda (I wledd ...)
Dyma Geidwad i'r colledig
Peraidd ganodd sêr y bore

Come ye, all the race of Adam,
  To praise our great Saviour,
Who wore the nature of a base sinner,
  Wonder of heaven and earth below:
    Here is the Alpha,
  And the great Omega in Man.

Although hosts of angels were
  Praising him in agreement,
In the extremities of eternity,
  Before he wore the nature of man,
    His heart was,
  With the unworthy dust of the ground.

Sweetly sang the stars of morning,
  At the King of heaven's birth;
Wise men and shepherds they
  Travelled to adore him:
    A valuable treasure,
  In the crib of Jesus was found.

Here is the delightful news
  Heard by God's angels,
That the Saviour has been born,
  To lost human-kind:
    A faithful friend,
  Sinners, let us praise Him!

Here is the Boy born to us,
  A Son who was given to us by God;
He is the only one armed
  To deliver human-kind:
    From the great
  Wretchedness we all fell into.

His name was called Wonderful;
  For eternity thus it shall be;
The prophets prophesied,
  Before his coming, about his day:
    A Saviour was got for us,
  Let us rejoice in him!

Eternal Father is his name,
  The Prince of peace he is:
The great creator of the worlds he is,
  And Upholder of human-kind!
    Almighty!
  He came to die in our place.

Here is a Saviour to the lost,
  A physician to those who have wasted away;
Here is one who loves to forgive
  Great sinners their fault;
    Thanks to him
  Forever for remembering the dust of the ground.

The King of eternity he is,
  Governor of earth and heaven;
Never will the tribes of the earth see
  Another Saviour but him;
    He is sufficient,
  Eternal life he is.
tr. 2014 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~